Lleoliad:
Hybrid: Ystafell Bwyllgora 4 Tŷ Hywel a
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2022
Amser:
09.30
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Marc Wyn Jones
Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
SeneddHinsawdd@senedd.cymru
------
Rhag-gyfarfod preifat (09.15-09.30)
Cyfarfod cyhoeddus
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
(09.30)
2 Teithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4
(09.30-11.00) (Tudalennau 1 - 29)
Dr Chris Llewelyn, Prif Weithredwr - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Tim Peppin, Cyfarwyddwr Materion Adfywio a Datblygu Cynaladwy - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Roger Waters, Cadeirydd - Grŵp Swyddogion Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a, Chyfarwyddwr Gwasanaethau Rheng-flaen - Cyngor Rhondda Cynon Taf
Dogfennau atodol:
Papur briffio gan Ymchwil y Senedd
Papur - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (ymateb gan
swyddog)
Papur - Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (Saesneg
yn unig)
3 Papurau i'w nodi
(11.00)
3.1 Craffu ar waith y Gweinidog Newid Hinsawdd a'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
(Tudalennau 30 - 33)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd a’r Dirprwy Weinidog yn dilyn sesiwn graffu’r Pwyllgor gyda’r Gweinidogion ar 15 Mehefin 2022
3.2 Fframweithiau Cyffredin dros dro ar gyfer Ansawdd Aer, Cemegion a Phlaladdwyr
(Tudalennau 34 - 35)
Dogfennau atodol:
Ymateb interim gan y Gweinidog Newid Hinsawdd i adroddiad y Pwyllgor ar Fframweithiau Cyffredin dros dro ar gyfer Ansawdd Aer, Cemegion a Phlaladdwyr.
3.3 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24
(Tudalennau 36 - 38)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24.
3.4 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU
(Tudalennau 39 - 41)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU
3.5 Datganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog: Bil llywodraethu amgylcheddol
(Tudalennau 42 - 43)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Cadeirydd at y Prif Weinidog ynghylch datganiad deddfwriaethol y Prif Weinidog: Bil llywodraethu amgylcheddol
3.6 Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022
(Tudalennau 44 - 47)
Dogfennau atodol:
Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd ynghylch
y bwriad i gydsynio i Lywodraeth y DU wneud a gosod Rheoliadau
Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau)
2022
Llythyr dilynol gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd
ynghylch Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion)
(Amlder Gwiriadau) 2022
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw.
(11.00)
Cyfarfod preifat (11.00-11.45)
5 Teithio ar fysiau a’r rheilffordd yng Nghymru - trafod y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
6 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor
(Tudalennau 48 - 53)
Dogfennau atodol:
Papur - Blaenraglen waith (Saesneg yn unig)